Cefndir a Diben
Mae'r Rheoliadau'n diwygio Deddf Rheoleiddio acArolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”) mewn perthynas â gweithredu o ran Cymru ddarpariaethau sy'n ymwneud â chydnabod cymwysterau proffesiynol sydd wedi eu cynnwys yn:
(a) y cytundeb masnach rydd rhwng Gwlad yr Iâ, Tywysogaeth Liechtenstein a Theyrnas Norwy a Theyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a wnaed yn Llundain ar 8 Gorffennaf 2021 (“cytundeb masnach rydd yr AEE EFTA”), a
(b) y Cytundeb rhwng Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon aChydffederasiwn y Swistir ar Gydnabod Cymwysterau Proffesiynol a wnaed ynLlundain ar 14 Mehefin 2023 (“Cytundeb y Swistir”).
Mae'r Rheoliadau'n diwygio Deddf 2016 i roi effaith, o fewn y fframwaith a sefydlwyd ar gyfer rheoleiddio gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, i'r darpariaethau sy'n ymwneud â chydnabod cymwysterau proffesiynol sydd wedi'u cynnwys yng nghytundeb masnach rydd AEE EFTA a Chytundeb y Swistir.
Gweithdrefn
Cymeradwyo.
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o’r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Mae rheoliad 3 yn mewnosod amryw o dermau diffiniedig i Ddeddf 2016. Mae'r diffiniad o "cyfnod ymaddasu" yn cynnwys cyfeiriad at "ymarfer dan oruchwyliaeth", ond nid yw hwn yn derm a ddiffinnir yn Neddf 2016 nac yn unman arall yn y Rheoliadau. Gofynnir i Lywodraeth Cymru gadarnhau beth sy'n cyfrif fel "ymarfer dan oruchwyliaeth" ac egluro pam nad yw hyn wedi'i nodi'n benodol.
2. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Mae rheoliad 12 yn mewnosod darpariaeth i Ddeddf 2016 sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r cofrestrydd roi hysbysiad o benderfyniad mewn perthynas â chofrestru neu adnewyddu gan ymgeisydd gwladwriaeth benodedig (fel y'i diffinnir yn y Rheoliadau) o fewn pedwar mis ar ôl y dyddiad y cyflwynwyd y cais. Mae'r gwelliant yn mynd ymlaen i ddweud, os yw'r cofrestrydd yn methu â rhoi hysbysiad o benderfyniad o fewn y cyfnod hwnnw, bod y methiant hwnnw i'w drin fel penderfyniad gan y cofrestrydd. Nid yw'n glir a fyddai’r cais yn cael ei gymeradwyo neu ei wrthod oherwydd methiant o'r fath, a gwahoddir Llywodraeth Cymru i roi esboniad pellach yn hyn o beth.
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
20 Ionawr 2026